Go to to content

Content

Trosi i rwydwaith newydd

Rhwng 2006 a 2011 bydd BT, wrth ymgynghori â diwydiant telathrebu'r Deyrnas Unedig a gyda chymorth Ofcom, yn trosi ei linellau ffôn, band llydan ac ISDN i rwydwaith datblygedig newydd*

Pam y newid?

Bydd eich adnoddau telathrebu presennol - fel galwadau llais, band llydan ac ISDN - yn esblygu'n gyflym dros y tymor byr, gan greu cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau arloesol newydd. Bydd llawer ohonynt yn dibynnu ar dechnolegau protocol rhyngrwyd (IP - Internet Protocol) ac yn galluogi mwy ohonom i gyfathrebu mewn ffyrdd newydd.

Image

Ni fyddwch yn sylwi'r gwaith

Fe wneir y rhan helaeth o'r gwaith i greu rhwydwaith newydd BT dros nos mewn cyfnewidfeydd ffôn gan isafu unrhyw ymyrraeth â'ch gwaith. Byddwn yn cyfyngu ymyrraeth â gwasanaethau i'r cyfnodau lleiaf posibl.

Unrhyw beth i mi wneud?

Byddwn yn gweithio'n galed i isafu'r effaith ar eich busnes. Ni fydd angen gwneud unrhyw beth i'ch ffôn, soced na'r llinell. Ni fydd yn effeithio prisiau eich galwadau ffôn, rhent llinell neu gysylltiad rhyngrwyd. Ac ni fyddwn yn ymweld â chi nac yn cloddio eich stryd.

Rydym yn cynnal profion estynedig er mwyn sicrhau bydd y rhan helaeth o offer a systemau swyddfeydd yn gweithio gyda'r rhwydwaith newydd. Rhagwelwn bydd y mwyafrif helaeth o'r offer a systemau yn gytûn â'r rhwydwaith newydd.

Gwirio bydd eich offer yn gytûn a'r rhwydwaith

Ymyrraeth â gwasanaethau

Bydd rhywfaint o ymyrraeth â'ch gwasanaethau ffôn, band llydan ac ISDN ar wahanol amserau dros y misoedd yn arwain at eich trosi ac ar y noson olaf. Bydd y cyfnodau byr hynny'n ein galluogi i wneud y gwaith angenrheidiol heb amharu ar y rhwydwaith. Wrth i ni eich trosi i'r rhwydwaith newydd ni fydd yn bosibl gwneud galwadau am hyd at 3 munud, 30 munud yn achos gwasanaethau band llydan.

Ar ddyddiad arall, bydd gwasanaethau band llydan yn destun ymyrraeth rhwng 5 a 30 munud.
Rydym wedi cynllunio'r gwaith diweddaru'n ofalus er mwyn gwneud y rhan fwyaf ohono gyda'r nos. Felly, oni fyddwch yn gwneud gwaith shift, mae'n bosib na fyddwch yn sylwi unrhyw beth.

Ymyrraeth â gwasanaethau yn eich ardal

Gwasanaethau brys

Bydd trefniadau arbennig ar gyfer galwadau i'r gwasanaethau brys. Os byddwch ar y ffôn i'r gwasanaethau brys pan fydd y gwaith peirianneg yn dechrau, ni fydd yn terfynu eich galwad. Ond os bydd y gwaith eisoes ar y gweill, ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau brys tan i ni ei gwblhau.

Ni fydd yn effeithio ffonau symudol yn uniongyrchol, felly cofiwch ailwefrio'r batri. Os yn defnyddio gwasanaeth talu wrth fynd, diweddarwch eich credyd erbyn y dyddiad switsio rhag ofn bydd angen gwneud galwad tra byddwn yn trosi eich llinell sefydlog.

Y ffeithiau

Gallwch hefyd siarad â ni'n ddi-dâl ar 0800 030 4000, 8.00am - 8.00pm Llun - Gwener, 9.00am - 5.00pm Sadwrn a Sul.

Mae gweddill y wefan yn Saesneg. Os am gael fersiynau Cymraeg o unrhyw eitemau ar y safle, galwch ni ar 0800 030 4000.

* Os yn derbyn gwasanaeth cebl, yn gwsmer Kingston Communications, Dwyrain Swydd Efrog, neu ddim angen llinell BT ar gyfer eich gwasanaethau ffôn, band llydan neu ISDN, ni fydd cyflwyno rhwydwaith newydd BT yn eich effeithio. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd eich trefniadau telathrebu cyfredol yn parhau. Ni fydd y datblygiadau uchod yn effeithio gwasanaethau symudol yn uniongyrchol.

News Updates

Latest News:
Jan 2008, new look website went live Jan 2008, new look website went live »
In January 2008 the new look switched-on website went live, featuring improved navigation.
Cardiff: the first switched-on area Cardiff: the first switched-on area »
Cardiff gets switched-on first, reflecting its spirit of innovation and regeneration.
Press information Press information »
As switched-on progresses we'll be posting all the latest news.
Left Banner
Right Banner

Footer Links

Go to top