Rhwydwaith ffôn a band llydan BT yn esblygu
Rhwng 2006 a 2011, bydd BT wrth ymgynghori â diwydiant telathrebu'r Deyrnas Unedig a gyda chymorth Ofcom, yn diweddaru ei linellau ffôn, band llydan ac ISDN wrth gyflwyno rhwydwaith datblygedig newydd*.
Pam y newid?
Bydd eich adnoddau telathrebu presennol - fel galwadau llais, band llydan ac ISDN - yn esblygu'n gyflym dros y tymor byr, gan greu cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau arloesol newydd. Bydd llawer ohonynt yn dibynnu ar dechnolegau protocol rhyngrwyd (IP - Internet Protocol) ac yn galluogi mwy ohonom i gyfathrebu mewn ffyrdd newydd.
Ni fyddwch yn sylwi'r gwaith
Bydd y rhan helaeth o'r gwaith i greu rhwydwaith newydd BT yn digwydd dros nos mewn cyfnewidfeydd ffôn. Rydym wedi cynllunio'r gwaith yn ofalus er mwyn isafu unrhyw ymyrraeth â'ch gwasanaethau.
Unrhyw beth i mi wneud?
Ni fydd angen gwneud unrhyw beth i'ch ffôn, soced na'r llinell a dylai eich offer weithio'n normal. Ni fyddwn yn ymweld â'ch cartref nac yn cloddio'r stryd. Ni fydd yn effeithio prisiau eich galwadau ffôn, rhent llinell neu gysylltiad rhyngrwyd. Ac ni fyddwn yn ymweld â chi nac yn cloddio eich stryd.
Ymyrraeth â gwasanaethau
Byddwch yn sylwi ymyriadau byr i wasanaethau ffôn, band llydan ac ISDN ar wahanol amserau yn y misoedd ac wythnosau'n arwain at y noson pan fyddwn yn trosi eich llinell ffôn. Bydd hynny'n ein caniatáu i wneud gwaith angenrheidiol heb amharu ar y rhwydwaith. Ar y noson pan fyddwn yn trosi eich llinell ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau am hyd at 3 munud neu dderbyn galwadau am hyd at 30 munud. Ar ddyddiad gwahanol bydd ymyriad o hyd at 10 munud i wasanaethau band llydan.
Ymyrraeth â gwasanaethau yn eich ardal
Gwasanaethau brys
Bydd trefniadau arbennig ar gyfer galwadau i'r gwasanaethau brys. Os byddwch ar y ffôn i'r gwasanaethau brys pan fydd y gwaith peirianneg yn dechrau, ni fydd yn terfynu eich galwad. Ond os bydd y gwaith eisoes ar y gweill, ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau brys tan i ni ei gwblhau.
Ni fydd yn effeithio ffonau symudol yn uniongyrchol, felly cofiwch ailwefrio'r batri. Os yn defnyddio gwasanaeth talu wrth fynd, diweddarwch eich credyd erbyn y dyddiad switsio rhag ofn bydd angen gwneud galwad tra byddwn yn trosi eich llinell sefydlog.
Y ffeithiau
Gallwch hefyd siarad â ni'n ddi-dâl ar 0800 030 4000, 8.00am - 8.00pm Llun - Gwener, 9.00am - 5.00pm Sadwrn a Sul.
Mae gweddill y wefan yn Saesneg. Os am gael fersiynau Cymraeg o unrhyw eitemau ar y safle, galwch ni ar 0800 030 4000.
* Os yn derbyn gwasanaeth cebl, yn gwsmer Kingston Communications, Dwyrain Swydd Efrog, neu ddim angen llinell BT ar gyfer eich gwasanaethau ffôn, band llydan neu ISDN, ni fydd cyflwyno rhwydwaith newydd BT yn eich effeithio. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd eich trefniadau telathrebu cyfredol yn parhau. Ni fydd y datblygiadau uchod yn effeithio gwasanaethau symudol yn uniongyrchol.